Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Gorffennaf 2023
Amser:
14.00 -
14.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13403
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS a Buffy Williams AS.
2 Deiseb y Flwyddyn
Cyhoeddodd y Cadeirydd mai deiseb y flwyddyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosti oedd P-06-1212, sef Cyfraith Mark Allen - rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru.
Llongyfarchodd yr Aelodau y prif ddeisebydd Leeanne Bartley a phawb a gyfrannodd at y ddeiseb.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1338 Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Undeb Unite ac mae wedi cael llawer o negeseuon e-bost a llythyrau gan bobl sy’n cefnogi eu hymgyrch.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i:
3.2 P-06-1339 Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Gweinidog yn glir iawn ynghylch ei dull gweithredu a pham.
Yng ngoleuni ymateb y Gweinidog cytunodd yr Aelodau nad ydynt yn gallu mynd â'r mater ymhellach a chytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
3.3 P-06-1342 Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
3.4 P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Senedd Ieuenctid Cymru wedi cynnal arolwg o bwys ar drafnidiaeth, sy'n cau dros yr haf. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i wahodd rhai o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i gyflwyno eu canfyddiadau i'r Pwyllgor Deisebau mewn cyfarfod tua diwedd mis Tachwedd.
Hefyd, cytunodd yr Aelodau i ofyn am ddiweddariad gan y Gweinidog ar yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr.
3.5 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n dioddef o'r cyflwr.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon a phrofiadau cleifion a gofyn iddi ateb y cwestiynau a godwyd gan y deisebydd.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd dadl ar y cyd yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a gymerodd ran a nododd fod amrywiaeth eang o randdeiliaid a roddodd dystiolaeth ar gyfer y ddau ymchwiliad wedi’u gwahodd i’r Senedd i wylio’r ddadl.
4.2 P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
4.3 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd nad oes unrhyw beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb o ystyried nad yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd mewn penderfyniadau sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4.4 P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru
Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan y deisebydd yn y Senedd ar 21 Mehefin.
Trafododd yr Aelodau y ddeiseb gan nodi, er bod cefnogaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i gynnal ymchwiliad i wasanaethau milfeddygol yng Nghymru, nid yw hyn yn rhan o’u blaenraglen waith ar hyn o bryd, felly mae’n annhebygol y caiff y gwaith ei gynnal yn y ddau dymor nesaf.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd yn nhymor yr hydref a gwahodd Coleg Brenhinol y Milfeddygon, a chynrychiolwyr o’r maes i roi tystiolaeth. Nododd yr Aelodau y byddai ymchwiliad byr ar y ddeiseb yn parhau i olygu bod gwaith manylach gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau’n bosibl yn ddiweddarach, a phan fydd ganddo’r gallu i wneud hynny.
4.5 P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) bellach wedi pasio cyfnod 4. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.
4.6 P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, gan fod Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023 bellach wedi'u rhoi ar waith nad oes unrhyw gamau pellach y gall y Pwyllgor eu cymryd. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd i’r deisebydd.
4.7 P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog
Yng ngoleuni'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â’r materion, cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor ac i ofyn am ddiweddariad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Ionawr 2024.
4.8 P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod:
· gwaith ar y groesffordd wedi dechrau;
· mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb cynhwysfawr i’r materion a godwyd gan y deisebydd; a
· bydd canllawiau newydd ynghylch terfynau cyflymder yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Yng ngoleuni hyn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd ar ei ymgyrch i wneud y groesffordd yn ddiogel a chytunodd i gau’r ddeiseb.
4.9 P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei gamau blaenorol i aros am y gyllideb derfynol a'r setliad Llywodraeth Leol. O ystyried bod hyn bellach wedi mynd heibio cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
4.10P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd ar ei ymgyrchu llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd. Roedd yr Aelodau’n croesawu’r canlyniad cadarnhaol, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. O ystyried hyn, cytunodd yr Aelodau felly i gau'r ddeiseb.
4.11Papur i'w nodi- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Cafodd y papurau eu nodi.
4.12P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
4.13P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer pobl anabl
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
6 Cynllun Gwaith Hydref 2023
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.